Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 5 Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 7 Tachwedd 2022
Amser:
09.03 -
10.28
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13116
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
David Rees AS (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AS Peredur Owen Griffiths AS Joyce Watson AS Llyr Gruffydd AS |
Tystion: |
Dame Elan Closs Stephens CBE, Comisiwn Etholiadol Shaun McNally, Comisiwn Etholiadol Rhydian Thomas, Comisiwn Etholiadol Kieran Rix, Comisiwn Etholiadol |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Clerc) Bethan Garwood (Dirprwy Glerc) Craig Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) Christian Tipples (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhys ap Owen; dirprwyodd Llyr Gruffydd ar ei ran.
1.3 Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
2 Craffu ar amcangyfrifon ariannol y Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2023/24
2.1 Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr o’r Comisiwn Etholiadol i'r cyfarfod a diolchodd iddynt am gyflwyno eu hamcangyfrif ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-24 ac amcangyfrif atodol 2022-23.
2.2 Holodd y Pwyllgor gynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol yn fanwl ar eu hamcangyfrif ariannol ar gyfer 2023-24 ac amcangyfrif atodol 2022-23.
2.3 Nododd y Pwyllgor lythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar adroddiad y Comisiwn Etholiadol ar y cynllun peilot etholiadol.
2.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar yr amcangyfrif fel rhan o'r ymgynghoriad sydd ei angen o dan baragraff 16A(8)(b) o Atodlen 1 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
3.1 Cytunwyd ar y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod o dan Reol Sefydlog 17.42(vi).
4 Craffu ar amcangyfrifon ariannol y Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2023/24 Trafod y dystiolaeth
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.